(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.
(2)Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.
(3)Pan fo—
(a)gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,
(b)y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac
(c)y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,
mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.
(4)Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3