xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1RHAN 3ALL+CY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

Trefniadau artiffisial i osgoi trethiLL+C

81CTrefniadau artiffisial i osgoi trethiLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant osgoi trethi yn “artiffisial” os nad yw ymrwymo iddo neu ei gyflawni yn weithred resymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaeth drethi Cymru sy’n gymwys i’r trefniadau.

(2)Wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial, caniateir ystyried yn benodol—

(a)unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol dilys sydd i’r trefniant (ac eithrio cael mantais drethiannol);

(b)pa un ai canlyniad y trefniant yw bod swm o dreth i’w godi y mae’n rhesymol cymryd nad hwnnw oedd y canlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd darpariaeth berthnasol deddfwriaeth drethi Cymru.

(3)Ond nid yw trefniant yn artiffisial os oedd, ar yr adeg yr ymrwymwyd iddo neu y’i cyflawnwyd—

(a)y trefniant yn gyson â’r arferion a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd, a

(b)ACC wedi mynegi ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.

(4)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill, rhaid rhoi sylw i’r trefniadau eraill hynny hefyd wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth drethi Cymru” yw—

(a)Deddfau Trethi Cymru, a

(b)unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan y Deddfau hynny.]