Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F181FHysbysiad gwrthweithio arfaethedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio arfaethedig”) i drethdalwr os yw ACC o’r farn—

(a)bod mantais drethiannol i berson wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi, a

(b)y dylid gwrthweithio’r fantais drethiannol drwy addasiad o dan adran 81E.

(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio arfaethedig—

(a)pennu’r trefniant osgoi trethi a’r fantais drethiannol,

(b)esbonio pam fod ACC o’r farn bod mantais drethiannol wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi,

(c)nodi’r addasiad y mae ACC yn bwriadu ei wneud er mwyn gwrthweithio’r fantais drethiannol,

(d)pennu unrhyw swm y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC arfaethedig, ac

(e)hysbysu’r trethdalwr—

(i)bod hysbysiad gwrthweithio terfynol i’w ddyroddi ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig,

(ii)y caiff y trethdalwr ofyn i ACC ymestyn y cyfnod 45 diwrnod hwnnw, a

(iii)y caniateir i’r trethdalwr gyflwyno sylwadau i ACC ar unrhyw adeg cyn dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio terfynol.]