(1)Nid yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen oni fo’r ddogfen ym meddiant y person neu o fewn pŵer y person.
(2)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen os yw’r ddogfen gyfan wedi ei chreu dros 6 mlynedd cyn y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, oni ddyroddir yr hysbysiad gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys.
(3)Ni chaniateir dyroddi hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir at ddiben gwirio sefyllfa dreth person sydd wedi marw dros 4 blynedd ar ôl i’r person farw.
(4)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen (neu unrhyw ran o ddogfen) sy’n ymwneud â chynnal adolygiad neu apêl sydd yn yr arfaeth sy’n ymwneud ag unrhyw dreth (boed dreth ddatganoledig ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 97 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)