RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL

Cyflawni’n sylweddol

I1I214Ystyr cyflawni’n sylweddol

1

Mae contract wedi ei gyflawni’n sylweddol at ddibenion y Ddeddf hon pan fo—

a

y prynwr, neu berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cymryd meddiant o holl destun y contract, neu’r holl destun i raddau helaeth, neu

b

cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu neu ei darparu.

2

At ddibenion is-adran (1)(a)—

a

mae meddiant yn cynnwys cael rhenti ac elw neu’r hawl i’w cael, a

b

nid oes wahaniaeth pa un a gymerir meddiant o dan y contract neu o dan drwydded neu les dros dro neu denantiaeth wrth ewyllys.

3

At ddibenion is-adran (1)(b), caiff cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth ei thalu neu ei darparu—

a

os nad yw dim o’r gydnabyddiaeth yn rhent, pan delir neu pan ddarperir yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth;

b

os rhent yw’r unig gydnabyddiaeth, pan wneir y taliad rhent cyntaf;

c

os yw’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhent yn ogystal â chydnabyddiaeth arall, pan ddigwydd y cyntaf o’r canlynol—

i

caiff yr holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent, neu’r holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent i raddau helaeth, ei thalu neu ei darparu, neu

ii

gwneir y taliad rhent cyntaf.