xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 10LL+CRHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL

RHAN 4LL+CBUDDIANT ESEMPT

Buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol yn fuddiant esemptLL+C

7(1)Mae buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol o ganlyniad i’r trafodiad cyntaf o fewn ystyr paragraff 2(1)(a) yn fuddiant esempt (ond gweler yr hyn a ganlyn).

(2)Mae’r buddiant yn peidio â bod yn fuddiant esempt—

(a)os yw’r les a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) yn peidio â chael effaith, neu

(b)os yw’r hawl o dan baragraff 2(1)(d) yn peidio â chael effaith neu’n dod yn ddarostyngedig i gyfyngiad.

(3)Nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt os yw rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

(4)Er gwaethaf is-baragraff (1), nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt mewn cysylltiad ag—

(a)y trafodiad cyntaf ei hun, neu

(b)trafodiad pellach o fewn ystyr paragraff 2(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3