xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11LL+CRHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 4LL+CRHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL

Rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiadLL+C

15(1)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os bodlonir pob un o amodau 1 i 7, a

(b)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 11 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3