ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 4RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL

I1I217Rhyddhad heb fod ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol

1

Nid yw rhyddhad a ddarperir o dan baragraff 13 neu 15 (gan gynnwys pan ddarperir y rhyddhad o dan y naill baragraff neu’r llall fel y’u haddesir gan baragraff 18) ar gael os caiff rheolaeth dros yr ased sylfaenol ei gaffael gan—

a

y deiliad bond, neu

b

grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

2

Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—

a

os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

b

os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

3

Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, effaith is-baragraff (1) yw nad yw paragraff 13 yn gymwys i’r trafodiad hwnnw.

4

Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw a bod amodau 1 i 3 wedi eu bodloni, effaith is-baragraff (1) yw y caiff unrhyw ryddhad o dan baragraff 13 ei drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl o dan baragraff 14.

5

Ond nid yw is-baragraff (1) yn rhwystro’r rhyddhadau rhag bod ar gael yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn.

6

Yr achos cyntaf yw—

a

ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau, nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo neu ganddynt unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

b

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.

7

Yr ail achos yw—

a

pan fo DB yn gwarantu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a

b

pan na fo DB yn arfer yr hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

8

Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.