Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Disodli asedLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

18(1)Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraff (2) neu (yn ôl y digwydd) (3)—

(a)os bodlonir amodau 1 i 3 a 7 mewn perthynas â buddiant mewn tir (“y tir gwreiddiol”),

(b)os yw B yn peidio â dal y tir gwreiddiol fel ased bond (ac yn unol â hynny, yn ei drosglwyddo i A) cyn terfyn y bond buddsoddi cyllid arall,

(c)os yw A a B yn ymrwymo i drefniadau pellach sy’n bodloni amod 1 mewn perthynas â buddiant mewn tir arall (“y tir amnewid”), a

(d)os yw gwerth y buddiant yn y tir amnewid ar yr adeg y mae A yn ei drosglwyddo i B yn fwy na gwerth marchnadol y buddiant yn y tir gwreiddiol ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol yn cael effaith, neu’n hafal â’r gwerth marchnadol hwnnw.

(2)Mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, nid oes angen bodloni amod 6 os bodlonir amodau 1, 2, 3, 6 a 7 (fel y’u haddesir gan is-baragraff (3)) mewn perthynas â’r tir amnewid.

(3)O ran y tir amnewid—

(a)mae amod 5 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y buddiant mewn tir yn gyfeiriad at y buddiant yn y tir gwreiddiol, a

(b)mae amod 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 12(b) at y trafodiad cyntaf yn gyfeiriad at y trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol.

(4)Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fo—

(a)B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a

(b)amod 4 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

(5)Os nad yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fydd B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod—

(a)amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a

(b)pob un o amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

(6)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys pan fo’r tir amnewid yn cael ei ddisodli gan dir cyfnewid pellach; ac os digwydd hynny—

(a)mae cyfeiriadau at y tir gwreiddiol (ac eithrio’r rheini yn is-baragraff (3)) i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid, a

(b)mae cyfeiriadau at y tir amnewid i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid pellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I3Atod. 11 para. 18(4)(a)(5) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(iv)

I4Atod. 11 para. 18(4)(a)(5) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3