ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 2NID YW DYRODDI, TROSGLWYDDO NAC ADBRYNU HAWLIAU O DAN FOND I’W TRIN FEL TRAFODIADAU TRETHADWY
I1I24Trin deiliad bond fel pe bai ganddo fuddiant os caffaelir rheolaeth dros ased sylfaenol
1
Nid yw paragraff 3 yn gymwys os caffaelir rheolaeth dros yr ased sylfaenol gan—
a
deiliad bond, neu
b
grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.
2
Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—
a
os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a
b
os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.
3
Ond nid yw is-baragraff (1) yn gweithredu i ddatgymhwyso paragraff 3 yn y naill na’r llall o’r achosion a ganlyn.
4
Yr achos cyntaf yw—
a
ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo (neu ganddynt) unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a
b
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.
5
Yr ail achos yw—
a
pan fo DB yn tanysgrifennu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a
b
pan na fo DB yn arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.
6
Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.