ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 5ATODOL
I118Disodli ased
I41
Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraff (2) neu (yn ôl y digwydd) (3)—
a
os bodlonir amodau 1 i 3 a 7 mewn perthynas â buddiant mewn tir (“y tir gwreiddiol”),
b
os yw B yn peidio â dal y tir gwreiddiol fel ased bond (ac yn unol â hynny, yn ei drosglwyddo i A) cyn terfyn y bond buddsoddi cyllid arall,
c
os yw A a B yn ymrwymo i drefniadau pellach sy’n bodloni amod 1 mewn perthynas â buddiant mewn tir arall (“y tir amnewid”), a
d
os yw gwerth y buddiant yn y tir amnewid ar yr adeg y mae A yn ei drosglwyddo i B yn fwy na gwerth marchnadol y buddiant yn y tir gwreiddiol ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol yn cael effaith, neu’n hafal â’r gwerth marchnadol hwnnw.
I42
Mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, nid oes angen bodloni amod 6 os bodlonir amodau 1, 2, 3, 6 a 7 (fel y’u haddesir gan is-baragraff (3)) mewn perthynas â’r tir amnewid.
I43
O ran y tir amnewid—
a
mae amod 5 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y buddiant mewn tir yn gyfeiriad at y buddiant yn y tir gwreiddiol, a
b
mae amod 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 12(b) at y trafodiad cyntaf yn gyfeiriad at y trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol.
4
Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fo—
I3I5a
B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a
I4b
amod 4 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.
I3I55
Os nad yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fydd B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod—
a
amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a
b
pob un o amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.
I46
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys pan fo’r tir amnewid yn cael ei ddisodli gan dir cyfnewid pellach; ac os digwydd hynny—
a
mae cyfeiriadau at y tir gwreiddiol (ac eithrio’r rheini yn is-baragraff (3)) i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid, a
b
mae cyfeiriadau at y tir amnewid i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid pellach.
I2I619ACC i hysbysu’r Cofrestrydd ynghylch gollwng pridiant tir
1
Pan gaiff pridiant tir ei ollwng yn unol â pharagraff 16 neu 18(4) neu (5), rhaid i ACC hysbysu’r Prif Gofrestrydd Tir ynghylch y gollyngiad hwnnw yn unol â rheolau cofrestru tir (o fewn ystyr “land registration rules” yn Neddf Cofrestru Tir 2002 (p.9)).
2
Rhaid i ACC wneud hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae B yn darparu’r dystiolaeth o dan sylw.