(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 12LL+CRHYDDHAD AR GYFER YMGORFFORI PARTNERIAETH ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG

Y rhyddhadLL+C

1Mae trafodiad pan fo person (“y trosglwyddwr”) yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mewn cysylltiad â’i ymgorffori wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir amodau A i C.

Amod ALL+C

2Amod A yw nad yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fwy na blwyddyn ar ôl dyddiad ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod BLL+C

3Amod B yw bod y trosglwyddwr, ar yr adeg berthnasol—

(a)yn bartner mewn partneriaeth sy’n cynnwys yr holl bersonau sy’n aelodau o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu a fydd yn aelodau ohoni (a neb arall), neu

(b)yn dal y buddiant trethadwy fel enwebai neu ymddiriedolwr noeth i un partner neu ragor mewn partneriaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 12 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod CLL+C

4Amod C yw—

(a)bod y cyfrannau o’r buddiant trethadwy y mae gan y personau a grybwyllir ym mharagraff 3(a) yr hawl iddynt yn union ar ôl y trosglwyddiad yr un fath â’r rheini yr oedd ganddynt hawl iddynt ar yr adeg berthnasol, neu

(b)nad yw yr un o’r gwahaniaethau yn y cyfrannau hynny wedi codi fel rhan o drefniadau y mae osgoi atebolrwydd i dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

DehongliLL+C

5(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “yr adeg berthnasol” (“the relevant time”) yw—

    (a)

    pan fu i’r trosglwyddwr gaffael y buddiant trethadwy ar ôl ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn union ar ôl i’r trosglwyddwr ei gaffael, a

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, yn union cyn ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

  • ystyr “partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig” (“limited liability partnership”) yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p.12).

(2)Ym mharagraff 4(b) mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3