Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

7(1)At ddibenion paragraff 5(1)(b), “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw’r ffracsiwn priodol o swm y dreth a fyddai’n ddyledus (oni bai am yr Atodlen hon) mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “y ffracsiwn priodol” yw—

Ffigwr 13

pan fo—

  • “CSW” y gydnabyddiaeth sy’n weddill ar gyfer y trafodiad perthnasol,

  • “CCA” yn gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau, a

  • “CCSW” yn gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill.

(3)Ystyr “cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw—

(a)ar gyfer trafodiad nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sy’n weddill ar gyfer y trafodiad hwnnw;

(b)ar gyfer un o nifer o drafodiadau cysylltiol—

(i)cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau hynny, llai

(ii)cydnabyddiaeth cyfanswm yr anheddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 13 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 13 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3