ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

RHAN 2RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

I1I26Masnachwr eiddo yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth

1

Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

2

Yr amodau yw—

a

y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion mewn cysylltiad â newid preswylfa o ganlyniad i adleoli cyflogaeth, neu’n ymwneud â hynny,

b

bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael,

c

y gwneir y caffaeliad mewn cysylltiad â newid preswylfa’r unigolyn o ganlyniad i adleoli cyflogaeth,

d

nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd,

e

nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

i

gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd, na

ii

rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na

iii

caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd, ac

f

nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

3

Nid yw is-baragraff (2)(e)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

4

Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (e) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

5

Yn y paragraff hwn—

a

mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, a

b

mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.