ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

RHAN 2RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

I1I29Dehongli

1

At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon—

a

ystyr “adeiladwr tai” yw

i

cwmni,

ii

partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu

iii

partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig,

sy’n cyflawni’r busnes o adeiladu neu addasu adeiladau neu rannau o adeiladau i’w defnyddio fel anheddau ac mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at adeiladwr tai yn cynnwys unrhyw gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gysylltiedig ag ef;

b

ystyr “annedd newydd” yw adeilad neu ran o adeilad—

i

sydd wedi ei adeiladu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac nad yw wedi ei feddiannu yn flaenorol, neu

ii

sydd wedi ei addasu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac nad yw wedi ei feddiannu ers iddo gael ei addasu;

c

ystyr “man cyflogaeth newydd” yw’r fan lle mae unigolyn fel arfer yn cyflawni dyletswyddau cyflogaeth ar ôl adleoli cyflogaeth, neu lle bydd yn cyflawni dyletswyddau o’r fath fel arfer;

d

ystyr “swm a ganiateir”, mewn perthynas ag adnewyddu annedd, yw—

i

£10,000, neu

ii

5% o’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael yr annedd,

pa un bynnag sydd fwyaf, ond yn ddarostyngedig i uchafswm o £20,000;

e

ystyr “arwynebedd a ganiateir”, mewn perthynas ag annedd, yw’r rhan honno o’r annedd sy’n dir sy’n cael ei feddiannu a’i fwynhau gyda’r adeilad, neu’r rhan o’r adeilad sy’n cael ei feddiannu fel annedd, fel ei ardd neu ei dir, nad yw’n fwy nag⁠—

i

arwynebedd (gan gynnwys safle’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad) o 0.5 hectar, neu

ii

unrhyw arwynebedd mwy sy’n angenrheidiol er mwyn mwynhau’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad yn rhesymol fel annedd, o ystyried ei faint a’i gymeriad;

ond pan fo paragraff (ii) yn gymwys, cymerir mai’r arwynebedd a ganiateir yw’r rhan honno o’r tir a fyddai fwyaf addas i’w meddiannu a’i mwynhau gyda’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad fel ei ardd neu ei dir pe bai gweddill y tir wedi ei feddiannu ar wahân;

f

ystyr “prif arferydd”, mewn perthynas â masnachwr eiddo—

i

yn achos cwmni, yw cyfarwyddwr;

ii

yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod;

iii

yn achos partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod neu berson sy’n brif arferydd i aelod;

g

ystyr “masnachwr eiddo” yw—

i

cwmni,

ii

partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu

iii

partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig,

sy’n cyflawni’r busnes o brynu a gwerthu anheddau;

h

ystyr “adnewyddu” annedd yw cyflawni gwaith sy’n cynyddu gwerth yr annedd, neu y bwriedir iddo gynyddu gwerth yr annedd, ond nid yw’n cynnwys—

i

glanhau’r annedd, na

ii

gwaith sy’n angenrheidiol yn unig at y diben o sicrhau bod yr annedd yn cyrraedd safonau diogelwch gofynnol;

i

ystyr “adleoli cyflogaeth” yw newid ym man cyflogaeth unigolyn o ganlyniad i—

i

yr unigolyn yn cael ei gyflogi gan gyflogwr newydd,

ii

newid dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn, neu

iii

newid y fan lle mae’r unigolyn yn cyflawni’r dyletswyddau hynny fel arfer.

2

At ddibenion paragraffau 6 a 7, mae newid preswylfa yn newid “o ganlyniad i” adleoli cyflogaeth—

a

os gwneir y newid yn llwyr neu’n bennaf er mwyn caniatáu i’r unigolyn fyw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i fan cyflogaeth newydd yr unigolyn, a

b

os nad yw preswylfa flaenorol yr unigolyn o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’r fan honno.

3

At ddibenion Rhan 2—

a

caiff unrhyw beth a wneir gan gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo, neu mewn perthynas â chwmni o’r fath, ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan y masnachwr eiddo hwnnw, neu mewn perthynas ag ef, a

b

mae cyfeiriadau at brif arferyddion neu gyflogeion masnachwr eiddo yn cynnwys prif arferyddion neu gyflogeion unrhyw gwmni o’r fath.