Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

14(1)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, i’w ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis am ryddhad o dan baragraff 12, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth.

(2)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, hefyd i’w ryddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3