ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 4YMDDIRIEDOLAETHAU RHANBERCHNOGAETH
I1I216Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: datganiad a chynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol
At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—
a
unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na
b
trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.