Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: datganiad a chynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

16At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

(a)unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na

(b)trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3