ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 2RHYDDHAD HAWL I BRYNU
I1I22F1Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus
1
Yn achos F3trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus —
a
nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a
b
nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.
2
Ystyr “F2trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus” yw—
a
gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasolF7...
F7
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
3
Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—
a
un neu ragor o Weinidogion y Goron;
b
Gweinidogion Cymru;
c
awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
d
landlord cymdeithasol cofrestredig;
e
ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);
f
corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);
g
person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
F44
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F55
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
6
Yn y paragraff hwn—
ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
F6...