xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 15LL+CRHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

RHAN 3LL+CLESOEDD RHANBERCHNOGAETH

Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadolLL+C

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)les yn cael ei rhoi—

(i)gan gorff cymwysF1...

F1(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

(c)bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;

(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu

(ii)swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—

(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu

(ii)y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

(5)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.

(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3