Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

RHAN 2LL+CRHYDDHAD HAWL I BRYNU

[F1Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus]LL+C

2(1)Yn achos [F2trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus]

(a)nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a

(b)nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(2)Ystyr “[F3trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus]” yw—

(a)gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasolF4...

F4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—

(a)un neu ragor o Weinidogion y Goron;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);

(f)corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);

(g)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

F5(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F6(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

  • F7...

Diwygiadau Testunol

F3Atod. 15 para. 2 pennawd wedi ei amnewid (26.1.2019) gan Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(iii)(bb) (ynghyd â rhl. 5)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3