ATODLEN 15LL+CRHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

RHAN 3LL+CLESOEDD RHANBERCHNOGAETH

Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadolLL+C

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)les yn cael ei rhoi—

(i)gan gorff cymwysF1...

F1(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

(c)bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;

(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu

(ii)swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—

(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu

(ii)y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

(5)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.

(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Les ranberchnogaeth: trosglwyddo rifersiwn pan ddewisir triniaeth gwerth marchnadolLL+C

4Mae trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau les y mae paragraff 3 yn gymwys iddi (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 15 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 15 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaethLL+C

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)les yn cael ei rhoi—

(i)gan gorff cymwysF2...

F2(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

(c)bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;

(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu

(ii)swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;

(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—

(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu

(ii)y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—

(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(4)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 15 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 15 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Les ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaethLL+C

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—

(a)y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a

(b)y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu

(b)os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.

(3)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 15 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 15 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Les ranberchnogaeth: rhoi les a thrafodiadau cynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiolLL+C

7At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi wrth roi les ranberchnogaeth ar gyfer annedd, mae rhoi’r les i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

(a)unrhyw gaffaeliad buddiant yn yr annedd y mae paragraff 6 yn gymwys iddo, na

(b)trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau’r les.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 15 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 15 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhent i les ranberchnogaeth: y swm y codir treth arnoLL+C

8(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i les ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ystyr “cynllun rhent i les ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant y mae corff cymwys, oddi tano—

(a)yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu i bersonau (“y tenantiaid”), a

(b)yn rhoi, wedi hynny, les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd neu annedd arall i’r tenant neu i un neu ragor o’r tenantiaid.

(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—

(a)rhoi’r contract meddiannaeth;

(b)rhoi’r les ranberchnogaeth;

(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.

(4)At ddibenion pennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith, mae’r ffaith fod y tenant neu’r tenantiaid yn meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth i’w diystyru.

(5)Yn y paragraff hwn, mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 15 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 15 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Lesoedd rhanberchnogaeth: dehongliLL+C

9(1)At ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, ystyr “les ranberchnogaeth” yw les a roddir—

(a)gan gorff cymwysF3...

F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

y bodlonir yr amodau ym mharagraff 3(2) neu 5(2) mewn perthynas â hi.

(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i baragraffau 3 i 8.

(3)Ystyr “corff cymwys” yw—

(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

F4(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .