ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

RHAN 6RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL GAN LANDLORDIAID CYMDEITHASOL COFRESTREDIG

I1I219Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

1

Mae trafodiad tir y mae’r prynwr oddi tano yn landlord cymdeithasol cofrestredig wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli gan ei denantiaid,

b

os yw’r gwerthwr yn gorff cymwys, neu

c

os defnyddir cymhorthdal cyhoeddus i ariannu’r trafodiad.

2

Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n cael “ei reoli gan ei denantiaid” yn gyfeiriad at landlord cymdeithasol cofrestredig y mae mwyafrif aelodau ei fwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo y mae’r darparwr tai cymwys yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

3

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “aelod o’r bwrdd” (“board member”), mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig—

    1. a

      os yw’n gwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni,

    2. b

      os yw’n gorff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, yw aelod,

    3. c

      os yw’n gorff o ymddiriedolwyr, yw ymddiriedolwr, neu

    4. d

      os nad yw o fewn paragraffau (a) i (c), yw aelod o’r pwyllgor rheoli neu o gorff arall sy’n gyfrifol am gyfarwyddo materion y landlord cymdeithasol cofrestredig;

  • ystyr “corff cymwys” (“qualifying body”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    1. a

      landlord cymdeithasol cofrestredig;

    2. b

      ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50);

    3. c

      cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

    4. d

      cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;

    5. e

      Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “cymhorthdal cyhoeddus” (“public subsidy”) yw unrhyw grant neu gymorth ariannol arall—

    1. a

      a wneir neu a roddir ar ffurf dosbarthiad yn unol ag adran 25 o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (p. 39) (cymhwyso arian gan gyrff dosbarthu),

    2. b

      a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau tai cymdeithasol), neu

    3. c

      o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).