xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19(1)Mae trafodiad tir y mae’r prynwr oddi tano yn landlord cymdeithasol cofrestredig wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli gan ei denantiaid,
(b)os yw’r gwerthwr yn gorff cymwys, neu
(c)os defnyddir cymhorthdal cyhoeddus i ariannu’r trafodiad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n cael “ei reoli gan ei denantiaid” yn gyfeiriad at landlord cymdeithasol cofrestredig y mae mwyafrif aelodau ei fwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo y mae’r darparwr tai cymwys yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.
(3)Yn y paragraff hwn—
ystyr “aelod o’r bwrdd” (“board member”), mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig—
os yw’n gwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni,
os yw’n gorff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, yw aelod,
os yw’n gorff o ymddiriedolwyr, yw ymddiriedolwr, neu
os nad yw o fewn paragraffau (a) i (c), yw aelod o’r pwyllgor rheoli neu o gorff arall sy’n gyfrifol am gyfarwyddo materion y landlord cymdeithasol cofrestredig;
ystyr “corff cymwys” (“qualifying body”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
landlord cymdeithasol cofrestredig;
ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50);
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);
cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;
Gweinidogion Cymru;
ystyr “cymhorthdal cyhoeddus” (“public subsidy”) yw unrhyw grant neu gymorth ariannol arall—
a wneir neu a roddir ar ffurf dosbarthiad yn unol ag adran 25 o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (p. 39) (cymhwyso arian gan gyrff dosbarthu),
a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau tai cymdeithasol), neu
o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 15 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 15 para. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3