11(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8—
(a)pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad,
(b)pan fu trafodiad a ryddheir cyn dyddiad y trosglwyddiad perthnasol, ac
(c)o ganlyniad i’r trosglwyddiad hwnnw, pan fo’r prynwr yn y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—
(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu
(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.
(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad” yw—
(a)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 10(1)(a) a (b) o Atodlen 22 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau adeiladu);
(b)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraffau 11(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cyfeillgar);
(c)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 12(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol neu undebau credyd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 16 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 16 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3