Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Rhyddhad grŵpLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r gwerthwr a’r prynwr yn gwmnïau sy’n aelodau o’r un grŵp ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad grŵp”.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 4 (cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp) a pharagraffau 8 a 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 16 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 16 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3