ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP
RHAN 5ADENNILL RHYDDHAD GAN BERSONAU PENODOL
I1I313Adennill rhyddhad grŵp gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaeth
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo treth i’w chodi o dan baragraff (8) (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl),
b
pan fo’r swm sydd i’w godi felly wedi ei bennu’n derfynol, ac
c
pan na fo’r holl swm neu ran o’r swm sydd i’w godi felly wedi ei dalu 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy.
2
Gall fod yn ofynnol i’r personau a ganlyn, drwy hysbysiad o dan baragraff 14, dalu’r dreth nas talwyd (ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy)—
a
y gwerthwr;
b
unrhyw gwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp;
c
unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y prynwr neu’n gwmni â rheolaeth dros y prynwr.
3
At ddibenion is-baragraff (2)(b)—
a
ystyr “adeg berthnasol” yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith a phan fydd y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr;
b
mae cwmni (“cwmni A”) “uwchlaw” cwmni arall (“cwmni B”) o fewn strwythur grŵp os yw cwmni B, neu gwmni arall sydd uwchlaw cwmni B yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i gwmni A.
4
Yn is-baragraff (2)(c)—
mae i “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chwmni, yr ystyr a roddir i “director” gan adran 67(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (a ddarllenir ar y cyd ag is-adran (2) o’r adran honno) ac mae’n cynnwys unrhyw berson sydd o fewn adran 452(1) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);
ystyr “cyfarwyddwr â rheolaeth” (“controlling director”), mewn perthynas â chwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni sydd â rheolaeth drosto (gan ddehongli rheolaeth yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)).
5
At ddibenion y paragraff hwn, nid yw hawliad wedi ei bennu’n derfynol hyd na ellir amrywio—
a
yr hawliad, neu
b
y swm y mae’n ymwneud ag ef,
mwyach (boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).
I2I414Adennill rhyddhad grŵp: atodol
1
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson sydd o fewn paragraff 13(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm sy’n parhau heb ei dalu cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
2
Rhaid dyroddi hysbysiad o dan is-baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol a grybwyllir ym mharagraff 13(1)(b).
3
Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo ei dalu.
4
Mae’r swm hwnnw yn “swm perthnasol” sy’n daladwy gan y person y dyroddir yr hysbysiad iddo at ddibenion Rhan 7 o DCRhT (talu a gorfodi).
5
Caiff person sydd wedi talu swm yn unol â hysbysiad o dan y paragraff hwn adennill y swm hwnnw gan y prynwr.