ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL
RHAN 1RHAGARWEINIAD
I1I21Trosolwg
1
Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael.
2
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae Rhan 2 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt yn unol â chynllun atgyfansoddi,
b
mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer swm y dreth sydd i’w godi pan ymrwymir i drafodiad tir mewn cysylltiad â chwmni sy’n caffael holl ymgymeriad cwmni arall, neu ran ohono,
c
mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael, a
d
mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill treth nas talwyd gan bersonau penodol.