xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 17LL+CRHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIAD

TrosolwgLL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt yn unol â chynllun atgyfansoddi,

(b)mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer swm y dreth sydd i’w godi pan ymrwymir i drafodiad tir mewn cysylltiad â chwmni sy’n caffael holl ymgymeriad cwmni arall, neu ran ohono,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael, a

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill treth nas talwyd gan bersonau penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 17 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 17 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3