ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL

RHAN 5ADENNILL RHYDDHAD ATGYFANSODDI NEU RYDDHAD CAFFAEL

I1I38Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaeth

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan fo treth i’w chodi o dan baragraff 5 neu 7 (tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael),

b

pan fo’r swm sydd i’w godi felly wedi ei bennu’n derfynol, ac

c

pan na fo’r holl swm neu ran o’r swm sydd i’w godi felly wedi ei dalu 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy.

2

Gall fod yn ofynnol i’r personau a ganlyn, drwy hysbysiad o dan baragraff 9, dalu’r dreth nas talwyd (ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy)—

a

unrhyw gwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp;

b

unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y cwmni caffael neu’n gwmni â rheolaeth dros y cwmni caffael.

3

At ddibenion is-baragraff (2), ystyr “adeg berthnasol” yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith a’r newid rheolaeth sy’n golygu bod treth i’w chodi yn ei sgil.

4

At ddibenion is-baragraff (2)(a), mae cwmni (“cwmni A”) “uwchlaw” cwmni arall (“cwmni B”) o fewn strwythur grŵp os yw cwmni B, neu gwmni arall sydd uwchlaw cwmni B yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i gwmni A.

5

At ddibenion is-baragraff (2)(b)—

a

mae i “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chwmni, yr ystyr a roddir i “director” gan adran 67(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (a ddarllenir ar y cyd ag is-adran (2) o’r adran honno) ac mae’n cynnwys unrhyw berson sydd o fewn adran 452(1) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

b

ystyr “cyfarwyddwr â rheolaeth”, mewn perthynas â chwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni sydd â rheolaeth drosto; ac mae “rheolaeth” yma i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

6

At ddibenion y paragraff hwn, nid yw hawliad wedi ei bennu’n derfynol hyd na ellir amrywio—

a

yr hawliad, neu

b

y swm y mae’n ymwneud ag ef,

mwyach (boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

I2I49Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: atodol

1

Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson o fewn paragraff 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm sy’n parhau heb ei dalu cyn diwedd y cyfnod 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

2

Rhaid dyroddi hysbysiad o dan is-baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol a grybwyllir ym mharagraff 8(1)(b).

3

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo ei dalu.

4

Mae’r swm hwnnw yn “swm perthnasol” sy’n daladwy gan y person y dyroddir yr hysbysiad iddo at ddibenion Rhan 7 o DCRhT (talu a gorfodi).

5

Caiff person sydd wedi talu swm yn unol â hysbysiad o dan y paragraff hwn adennill y swm hwnnw gan y cwmni caffael.