ATODLEN 18LL+CRHYDDHAD ELUSENNAU

TrosolwgLL+C

1Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol,

[F1(aa)mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,]

(b)mae paragraff 3 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael i elusen sy’n brynwr mewn trafodiad tir ac o dan ba amgylchiadau y mae ar gael,

(c)mae paragraff 4 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl,

(d)mae paragraff 5 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 3 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl,

(e)mae paragraff 6 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan fo o leiaf un elusen ac o leiaf un person nad yw’n elusen yn brynwyr mewn trafodiad tir,

(f)mae paragraff 7 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad hwnnw ei dynnu’n ôl,

(g)mae paragraff 8 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 6 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl, a

(h)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau sydd ar gael i ymddiriedolaethau elusennol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 18 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 18 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3