ATODLEN 18LL+CRHYDDHAD ELUSENNAU

Termau allweddolLL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, mae elusen (“E”) sy’n brynwr mewn trafodiad tir yn “elusen gymwys”—

(a)at ddibenion paragraffau 3, 4 a 5, os yw E yn bwriadu dal holl destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys;

(b)at ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, os yw E yn bwriadu dal ei holl gyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae E yn dal testun y trafodiad “at ddibenion elusennol cymwys” os yw E yn ei ddal—

(a)i’w ddefnyddio er mwyn hybu dibenion elusennol E neu elusen arall, neu

(b)fel buddsoddiad y defnyddir yr elw ohono at ddibenion elusennol E.

(3)Yn yr Atodlen hon—

(a)mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan [F1baragraff 2A] , a

(b)mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25).

(4)Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas ag E sy’n brynwr mewn trafodiad tir, ceir “digwyddiad datgymhwyso” pan fo—

(a)E yn peidio â bod yn sefydledig at ddibenion elusennol yn unig, neu

(b)holl destun neu unrhyw ran o destun y trafodiad a ryddheir rhag treth o dan yr Atodlen hon, neu unrhyw fuddiant neu hawl sy’n deillio ohono, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan E at ddibenion heblaw dibenion elusennol cymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 18 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 18 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3