[F12C.(1)Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—
(a)yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a
(b)yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.
(2)Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.
(3)Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 18 parau. 2A-2D wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/833), rhlau. 1(2), 3(4) (ynghyd â rhl. 3(5)); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)