6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo dau brynwr neu ragor mewn trafodiad tir,
(b)pan fo’r prynwyr yn caffael testun y trafodiad fel tenantiaid ar y cyd, ac
(c)pan fo o leiaf un o’r prynwyr yn elusen gymwys ac o leiaf un o’r prynwyr yn berson arall nad yw’n elusen gymwys.
(2)Caiff y dreth a godir mewn cysylltiad â’r trafodiad ei gostwng yn ôl swm y rhyddhad o dan is-baragraff (3) (ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad rhannol yn ôl)).
(3)Mae’r rhyddhad yn gyfwerth â’r gyfran berthnasol o’r dreth y byddid wedi ei chodi fel arall, gan anwybyddu paragraff 3, mewn cysylltiad â’r trafodiad.
(4)Yn achos elusen gymwys, “y gyfran berthnasol” yw’r isaf o C1 a C2, pan fo—
C1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd);
C2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 18 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 18 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3