(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 18LL+CRHYDDHAD ELUSENNAU

TrosolwgLL+C

1Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol,

[F1(aa)mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,]

(b)mae paragraff 3 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael i elusen sy’n brynwr mewn trafodiad tir ac o dan ba amgylchiadau y mae ar gael,

(c)mae paragraff 4 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl,

(d)mae paragraff 5 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 3 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl,

(e)mae paragraff 6 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan fo o leiaf un elusen ac o leiaf un person nad yw’n elusen yn brynwyr mewn trafodiad tir,

(f)mae paragraff 7 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad hwnnw ei dynnu’n ôl,

(g)mae paragraff 8 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 6 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl, a

(h)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau sydd ar gael i ymddiriedolaethau elusennol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 18 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 18 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Termau allweddolLL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, mae elusen (“E”) sy’n brynwr mewn trafodiad tir yn “elusen gymwys”—

(a)at ddibenion paragraffau 3, 4 a 5, os yw E yn bwriadu dal holl destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys;

(b)at ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, os yw E yn bwriadu dal ei holl gyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae E yn dal testun y trafodiad “at ddibenion elusennol cymwys” os yw E yn ei ddal—

(a)i’w ddefnyddio er mwyn hybu dibenion elusennol E neu elusen arall, neu

(b)fel buddsoddiad y defnyddir yr elw ohono at ddibenion elusennol E.

(3)Yn yr Atodlen hon—

(a)mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan [F2baragraff 2A] , a

(b)mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25).

(4)Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas ag E sy’n brynwr mewn trafodiad tir, ceir “digwyddiad datgymhwyso” pan fo—

(a)E yn peidio â bod yn sefydledig at ddibenion elusennol yn unig, neu

(b)holl destun neu unrhyw ran o destun y trafodiad a ryddheir rhag treth o dan yr Atodlen hon, neu unrhyw fuddiant neu hawl sy’n deillio ohono, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan E at ddibenion heblaw dibenion elusennol cymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 18 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 18 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ystyr “elusen”LL+C

[F32A.At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “elusen” yw corff o bersonau neu ymddiriedolaeth—

(a)sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig,

(b)sy’n bodloni’r amod awdurdodaeth (gweler paragraff 2B),

(c)sy’n bodloni’r amod cofrestru (gweler paragraff 2C), a

(d)sy’n bodloni’r amod rheoli (gweler paragraff 2D).

Ystyr “elusen”: yr amod awdurdodaethLL+C

2B.(1)Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.

(2)Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—

(a)yr Uchel Lys,

(b)y Llys Sesiwn, neu

(c)yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.

Ystyr “elusen”: yr amod cofrestruLL+C

2C.(1)Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—

(a)yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a

(b)yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.

(2)Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.

(3)Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Ystyr “elusen”: yr amod rheoliLL+C

2D.(1)Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.

(4)Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—

(a)nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu

(b)ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.]

Y rhyddhadLL+C

3(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan fo’r prynwr yn elusen gymwys.

(2)Ond gweler paragraff 4 (tynnu rhyddhad yn ôl).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 18 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 18 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tynnu rhyddhad elusennau yn ôlLL+C

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 (“y trafodiad a ryddheir”),

(b)digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas ag elusen (“E”) a oedd y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, ac

(c)y digwyddiad datgymhwyso o dan yr amgylchiadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (3) a (4).

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff rhyddhad o dan baragraff 3 ei dynnu’n ôl, neu gyfran briodol ohono ei thynnu’n ôl, ac mae treth i’w chodi (gweler is-baragraff (5)).

(3)Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso fod—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(b)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, rhaid i E ddal buddiant trethadwy—

(a)a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(b)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly.

(5)Y swm sydd i’w godi yw swm y dreth a fyddai wedi bod i’w godi oni bai am baragraff 3 neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r swm hwnnw.

(6)Ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—

(a)yr hyn a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir a’r hyn a ddelir gan E ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)i ba raddau y mae’r hyn a ddelir gan E ar yr adeg honno yn cael neu’n dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 18 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 18 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Elusen nad yw’n elusen gymwysLL+C

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan na fo trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 am nad yw’r prynwr yn elusen gymwys, ond

(b)bod y prynwyr yn elusen (“E”) sy’n bwriadu dal y rhan fwyaf o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)Mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau 3 a 4 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond

(b)at ddibenion paragraff 4, mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E⁠—

(i)unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;

(ii)unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.

(3)Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 4—

(a)dyddiad y digwyddiad datgymhwyso at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a

(b)mae paragraff 4 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).

(4)Yr addasiadau i baragraff 4 yw—

(a)mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;

(b)mae is-baragraff (6)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;

(c)mae is-baragraff (6) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a

(b)mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a

(b)mae i “rhent” yr ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 18 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 18 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Pryniant ar y cyd gan elusen gymwys a pherson arall: rhyddhad rhannolLL+C

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo dau brynwr neu ragor mewn trafodiad tir,

(b)pan fo’r prynwyr yn caffael testun y trafodiad fel tenantiaid ar y cyd, ac

(c)pan fo o leiaf un o’r prynwyr yn elusen gymwys ac o leiaf un o’r prynwyr yn berson arall nad yw’n elusen gymwys.

(2)Caiff y dreth a godir mewn cysylltiad â’r trafodiad ei gostwng yn ôl swm y rhyddhad o dan is-baragraff (3) (ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad rhannol yn ôl)).

(3)Mae’r rhyddhad yn gyfwerth â’r gyfran berthnasol o’r dreth y byddid wedi ei chodi fel arall, gan anwybyddu paragraff 3, mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(4)Yn achos elusen gymwys, “y gyfran berthnasol” yw’r isaf o C1 a C2, pan fo—

  • C1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd);

  • C2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 18 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 18 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tynnu rhyddhad rhannol yn ôlLL+C

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 6 (“y trafodiad a ryddheir”),

(b)digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas ag elusen (“E”) a oedd y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, a

(c)y digwyddiad datgymhwyso o dan yr amgylchiadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (3) a (4).

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff rhan E o’r rhyddhad, neu gyfran briodol o ran E o’r rhyddhad hwnnw, ei thynnu’n ôl ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn (gweler is-baragraff (5)).

(3)Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso fod—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(b)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, rhaid i E ddal buddiant trethadwy—

(a)a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(b)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly.

(5)Mae’r swm trethadwy yn gyfwerth â rhan E o’r rhyddhad neu, yn ôl y digwydd, y gyfran briodol o ran E o’r rhyddhad.

(6)Mae rhan E o’r rhyddhad yn dibynnu ar ba un ai C1 neu C2 oedd isaf yn y cyfrifiad o dan baragraff 6.

(7)Os C1 oedd isaf, mae rhan E o’r rhyddhad yn gyfwerth â—

Ffigwr 14

pan fo—

  • c1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad;

  • C1 â’r un ystyr ag ym mharagraff 6(4);

  • Rh yn swm y rhyddhad.

(8)Os C2 oedd isaf, mae rhan E o’r rhyddhad yn gyfwerth â—

Ffigwr 15

pan fo—

  • c2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddwyd gan E;

  • C2 â’r un ystyr ag ym mharagraff 6(4);

  • Rh yn swm y rhyddhad.

(9)Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—

(a)yr hyn a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir a’r hyn a ddelir gan E ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)i ba raddau y mae’r hyn a ddelir gan E ar yr adeg honno yn cael neu’n dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 18 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 18 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad rhannol: elusen nad yw’n elusen gymwysLL+C

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo elusen (“E”) yn un o ddau brynwr neu ragor sy’n caffael testun trafodiad tir fel tenantiaid ar y cyd,

(b)pan na fo E yn elusen gymwys,

(c)pan fyddai paragraff 6(2) i (4) yn gymwys pe bai E yn elusen gymwys, a

(d)pan fo E yn bwriadu dal y rhan fwyaf o’i chyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)Mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau 6 a 7 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond

(b)at ddibenion paragraff 7 mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E⁠—

(i)unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;

(ii)unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.

(3)Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 7—

(a)dyddiad y digwyddiad at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a

(b)mae paragraff 7 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).

(4)Yr addasiadau i baragraff 7 yw—

(a)mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;

(b)mae is-baragraff (9)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;

(c)mae is-baragraff (9) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a

(b)mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a

(b)mae i “rhent” yr un ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 18 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 18 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cymhwyso’r Atodlen hon i ymddiriedolaethau penodolLL+C

9(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r ymddiriedolaethau a ganlyn fel y mae’n gymwys i elusen ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (2)—

(a)ymddiriedolaeth y mae’r holl fuddiolwyr ynddi yn elusennau, neu

(b)cynllun ymddiriedolaeth unedau y mae’r holl ddeiliaid unedau ynddo yn elusennau.

(2)Yr addasiadau i’r Atodlen hon yw—

(a)mae’r cyfeiriadau ym mharagraff 2(2) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt;

(b)mae’r cyfeiriadau at E ym mharagraff 2(4) i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau;

(c)mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 5(2)(b) ac 8(2)(b) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 18 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 18 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3