ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 3TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU SY’N DROSGLWYDDIADAU ANNIBYNNOL
I1I213Trosglwyddiadau annibynnol: cydnabyddiaeth a chyflawni’n sylweddol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad cyn-gwblhau yn drosglwyddiad annibynnol.
2
Os yw’r trosglwyddai yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol, ystyrir bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad sy’n rhoi effaith i’r caffaeliad hwnnw yn cynnwys y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trosglwyddiad annibynnol (oni fyddai’n ei gynnwys fel arall).
3
Mae cyfeiriadau yn is-baragraff (2) at gaffaeliad yn cynnwys caffaeliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi digwydd yn rhinwedd adran 10(4) (ac mae’r cyfeiriad at y trafodiad sy’n rhoi effaith i’r caffaeliad hwnnw i’w ddarllen yn unol â hynny).
4
Mae cam a gymerir gan y trosglwyddai (neu aseinai’r trosglwyddai) a fyddai, pe bai’r prynwr gwreiddiol yn cymryd y cam hwnnw, yn golygu (at ddibenion adran 14(1)) cymryd meddiant o holl destun y contract gwreiddiol neu’r holl destun i raddau helaeth, i’w drin fel cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol.
5
Os yw trafodiad sy’n drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas â chontract hefyd yn drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas â chontract arall (pan fu trosglwyddiadau annibynnol olynol, yn benodol), ystyrir mai pob un o’r contractau hynny yw’r “contract gwreiddiol” at ddibenion cymhwyso is-baragraff (4) mewn achosion ar wahân.
6
Yn is-baragraff (4)—
a
mae’r cyfeiriad at y trosglwyddai yn cynnwys person sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, a
b
mae’r cyfeiriad at aseinai’r trosglwyddai—
i
yn gyfeiriad at berson sydd, o ganlyniad i drafodiad sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â’r trosglwyddiad annibynnol, â’r hawl i alw am drosglwyddo holl destun y trosglwyddiad annibynnol neu ran ohono, a
ii
yn cynnwys person sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath.