ATODLEN 2LL+CTRAFODIADAU CYN-GWBLHAU

RHAN 3LL+CTRAFODIADAU CYN-GWBLHAU SY’N DROSGLWYDDIADAU ANNIBYNNOL

Cyfeiriadau at “y gwerthwr” mewn achosion sy’n ymwneud â throsglwyddiadau annibynnolLL+C

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)y trafodiad cyn-gwblhau yn drosglwyddiad annibynnol a’r trosglwyddai yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol fel y crybwyllir ym mharagraff 13(2) (o’i ddarllen ar y cyd â pharagraff 13(3)), neu

(b)y trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau a naill ai—

(i)testun y contract gwreiddiol yn cael ei drosglwyddo i’r trosglwyddai, neu

(ii)y contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai,

ond nid yw paragraff 11(1) (cyfeiriadau at y gwerthwr pan fo’r trosglwyddai yn aseinai o dan aseinio hawliau) yn gymwys oherwydd bod y contract gwreiddiol yn drosglwyddiad annibynnol (gweler paragraff 11(2)).

(2)Y rheol gyffredinol, mewn perthynas â’r trafodiad tir perthnasol, yw bod cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y gwerthwr o dan y trafodiad priodol cyntaf (ond gweler is-baragraff (3)).

(3)Mewn perthynas â’r trafodiad tir perthnasol, mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn y darpariaethau penodedig (gweler is-baragraff (4)) i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—

(a)y gwerthwr yn y trafodiad priodol cyntaf,

(b)y trosglwyddwr o dan y trafodiad terfynol, ac

(c)y trosglwyddwr o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n ymwneud â’r trafodiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â hwy.

(4)Y darpariaethau penodedig yw—

(a)paragraff 8(1)(a) o Atodlen 4 (dyled fel cydnabyddiaeth);

(b)paragraff 11(2)(c) o’r Atodlen honno (cyflawni gwaith);

(c)paragraff 14 o’r Atodlen honno (indemniad a roddir gan brynwr);

(d)paragraff 1(1) a (2) o Atodlen 20 (trosglwyddiadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);

(e)paragraff 2(1)(a) o Atodlen 21 (cydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio: amodau ar gyfer rhyddhad).

(5)Wrth bennu o dan adran 8(1) pa un a yw trafodiad tir perthnasol a thrafodiad arall yn gysylltiol ai peidio, gellir cymryd mai unrhyw un neu ragor o’r canlynol yw’r gwerthwr yn y trafodiad tir perthnasol—

(a)y gwerthwr yn y trafodiad priodol cyntaf,

(b)y trosglwyddwr o dan y trafodiad terfynol, ac

(c)y trosglwyddwr o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n ymwneud â’r trafodiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â hwy.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y trafodiad tir perthnasol” yw—

(i)y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), neu

(ii)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(b), y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo drwy drosglwyddo testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai neu gyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai;

(b)ystyr “y trafodiad terfynol” yw—

(i)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(a), y trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael testun y trosglwyddiad annibynnol gan y trosglwyddai;

(ii)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(b), y trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael testun yr aseinio hawliau gan y trosglwyddai (pa un ai drwy drosglwyddo testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai neu fel arall);

(c)ystyr “y trafodiad priodol cyntaf” yw’r contract gwreiddiol, oni bai bod is-baragraff (7) yn gymwys.

(7)Wrth gymhwyso’r paragraff hwn i achos pan na fo’r contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni ar yr un pryd â chyflawni’r trafodiad terfynol nac mewn cysylltiad â hynny, ystyr “y trafodiad priodol cyntaf” yw trafodiad sy’n drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.

(8)Yr amodau yw bod y trafodiad cyn-gwblhau—

(a)yn cael ei gyflawni ar yr adeg y cyflawnir y trafodiad terfynol ac (os nad y trafodiad terfynol hwnnw ydyw) y’i cyflawnir mewn cysylltiad â chyflawni’r trafodiad terfynol,

(b)yn drafodiad y mae hawl y trosglwyddai i alw am drosglwyddo testun y trafodiad terfynol yn dibynnu arno, ac

(c)yn drafodiad nas rhagflaenir gan drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (a) a (b).

(9)At ddibenion is-baragraffau (7) ac (8)—

(a)ystyrir bod contract ar gyfer trafodiad tir wedi “ei gyflawni” pan gaiff ei gyflawni’n sylweddol neu ei gwblhau (pa un bynnag sydd gynharaf);

(b)ystyrir bod trosglwyddiad annibynnol ac eithrio contract wedi “ei gyflawni” pan fydd y trosglwyddai o dan y trosglwyddiad annibynnol hwnnw (neu aseinai’r trosglwyddai hwnnw, fel y’i diffinnir ym mharagraff 13(6)(b)) yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol hwnnw.

(10)Pan fo’r trafodiad terfynol yn drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas â phob un o ddau gontract neu ragor fel y rhai a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(a) sydd gyda’i gilydd yn ffurfio cyfres o gontractau o’r fath (gyda phob contract â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r holl gontractau eraill), mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at y “contract gwreiddiol” i’w darllen fel cyfeiriadau at y contract cyntaf yn y gyfres honno.