ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 4RHEOL ISAFSWM Y GYDNABYDDIAETH
I1I215Rheol isafswm y gydnabyddiaeth
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo paragraff 7(3) neu 13(2) (trafodiadau cyn-gwblhau: caffael buddiant trethadwy, neu ei drin fel pe bai wedi ei gaffael, gan y trosglwyddai) yn gymwys.
2
Os oes cysylltiad perthnasol rhwng partïon, yna at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 4 ystyrir mai’r gydnabyddiaeth a roddir gan y prynwr ar gyfer testun y trafodiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2) yw’r uchaf o’r canlynol—
a
y swm a fyddai oni bai am yr is-baragraff hwn,
b
yr isafswm cyntaf (gweler paragraff 16), neu
c
yr ail isafswm (gweler paragraff 17).
3
Mae “cysylltiad perthnasol rhwng partïon” os yw’r trosglwyddai mewn perthynas â’r trafodiad cyn-gwblhau a grybwyllir ym mharagraff 7(1) neu 13(1) (“y trafodiad a weithredwyd”) yn gysylltiedig â’r canlynol, neu heb fod yn gweithredu hyd braich iddynt—
a
y trosglwyddwr mewn perthynas â’r trafodiad a weithredwyd, neu
b
trosglwyddwr mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau—
i
sy’n un mewn cadwyn o drafodiadau cyn-gwblhau olynol (oll ag o leiaf ran o’u testun yn gyffredin a chan gynnwys y trafodiad a weithredwyd) mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, a
ii
sy’n rhagflaenu’r trafodiad a weithredwyd yn y gadwyn.
4
Pan fo’r trafodiad a weithredwyd yn drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas ag—
a
contract ar gyfer trafodiad tir nad yw ei hun yn drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas ag unrhyw gontract arall, a
b
contract, neu ddau neu ragor o gontractau olynol, sydd ei hun neu eu hunain yn drosglwyddiadau annibynnol mewn perthynas â’r contract a grybwyllir ym mharagraff (a),
mae cyfeiriadau yn y Rhan hon o’r Atodlen hon at y “contract gwreiddiol” yn gyfeiriadau at y contract a grybwyllir ym mharagraff (a) yn unig (ac mae cyfeiriadau at y “prynwr gwreiddiol” i’w darllen yn unol â hynny).