xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CTRAFODIADAU CYN-GWBLHAU

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIAD A CHYSYNIADAU ALLWEDDOL

Cymhwyso’r Atodlen honLL+C

2(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo—

(a)person (“y prynwr gwreiddiol”) yn ymrwymo i gontract (“y contract gwreiddiol”) ar gyfer caffael buddiant trethadwy gan y prynwr gwreiddiol y mae’r caffaeliad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad, a

(b)trafodiad cyn-gwblhau.

(2)Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at gontract yn cynnwys contract sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â chontract arall.

(3)Ar gyfer unrhyw un contract i gaffael buddiant trethadwy nid oes ond un prynwr gwreiddiol (ac at ddibenion yr Atodlen hon mae cydbrynwyr gwreiddiol i’w trin fel un prynwr gwreiddiol).

(4)Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys pan fo paragraff 21 o Atodlen 6 (aseinio cytundeb ar gyfer les) yn gymwys (ac yn unol â hynny, er gwaethaf paragraff 3, nid yw aseinio cytundeb ar gyfer les yn drafodiad cyn-gwblhau).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3