ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU

RHAN 1RHAGARWEINIAD A CHYSYNIADAU ALLWEDDOL

I1I23Ystyr “trafodiad cyn-gwblhau”

1

Mae trafodiad yn drafodiad cyn-gwblhau—

a

os, o ganlyniad i’r trafodiad, yw person ac eithrio’r prynwr gwreiddiol (“y trosglwyddai”) yn cael yr hawl i alw am drosglwyddo i’r trosglwyddai holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono, a

b

os, yn union cyn i’r trafodiad ddigwydd, oedd gan berson (ac eithrio’r trosglwyddai ond nid o reidrwydd y prynwr gwreiddiol) yr hawl o dan y contract gwreiddiol i alw am drosglwyddo’r holl destun hwnnw neu’r rhan honno ohono.

2

Nid yw trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael gan berson holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono yn drafodiad cyn-gwblhau.

3

Nid yw rhoi nac aseinio opsiwn yn drafodiad cyn-gwblhau.

4

Nid yw’r ffaith fod trafodiad yn cael yr effaith o gyflawni’r contract gwreiddiol yn rhwystro’r trafodiad hwnnw rhag bod yn drafodiad cyn-gwblhau.