Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Ystyr “trafodiad cyn-gwblhau”LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Mae trafodiad yn drafodiad cyn-gwblhau—

(a)os, o ganlyniad i’r trafodiad, yw person ac eithrio’r prynwr gwreiddiol (“y trosglwyddai”) yn cael yr hawl i alw am drosglwyddo i’r trosglwyddai holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono, a

(b)os, yn union cyn i’r trafodiad ddigwydd, oedd gan berson (ac eithrio’r trosglwyddai ond nid o reidrwydd y prynwr gwreiddiol) yr hawl o dan y contract gwreiddiol i alw am drosglwyddo’r holl destun hwnnw neu’r rhan honno ohono.

(2)Nid yw trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael gan berson holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono yn drafodiad cyn-gwblhau.

(3)Nid yw rhoi nac aseinio opsiwn yn drafodiad cyn-gwblhau.

(4)Nid yw’r ffaith fod trafodiad yn cael yr effaith o gyflawni’r contract gwreiddiol yn rhwystro’r trafodiad hwnnw rhag bod yn drafodiad cyn-gwblhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3