ATODLEN 20RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU GAN GYRFF CYHOEDDUS A CHYRFF IECHYD
I1I21Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus
1
Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo wrth ad-drefnu, o ganlyniad i ad-drefnu, neu mewn cysylltiad ag ad-drefnu, y rhoddir effaith iddo gan neu o dan ddeddfiad, wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr a’r gwerthwr ill dau yn gyrff cyhoeddus.
2
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod trafodiad tir nad ymrwymir iddo fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei ryddhau rhag treth—
a
os rhoddir effaith i’r trafodiad gan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau, neu oddi tano, a
b
os yw naill ai’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff cyhoeddus.
3
Ystyr “ad-drefnu” yw newidiadau sy’n golygu—
a
sefydlu, diwygio neu ddiddymu un corff cyhoeddus neu ragor,
b
creu, addasu neu ddiddymu swyddogaethau (a gyflawnir, neu sydd i’w cyflawni) gan un corff cyhoeddus neu ragor, neu
c
trosglwyddo swyddogaethau o un corff cyhoeddus i un arall.
4
Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn—
a
un o Weinidogion y Goron;
b
Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;
c
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);
F2da
cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
e
cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;
f
cyngor un o fwrdeistrefi Llundain;
g
unrhyw awdurdod arall sy’n awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);
h
Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);
i
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
j
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);
F1k
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
l
person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
5
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at gorff cyhoeddus yn cynnwys—
a
cwmni y mae corff o’r fath yn berchen ar ei holl gyfranddaliadau;
b
is-gwmni dan berchnogaeth lwyr cwmni o’r fath.