Rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
4(1)Mae paragraff 3 yn cael effaith mewn perthynas â phencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig fel pe bai—
(a)y pencadlys yn lu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig, a
(b)aelodau’r llu arfog hwnnw yn cynnwys y personau hynny sy’n gwasanaethu yn y pencadlys, neu sy’n gysylltiedig ag ef, sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.
(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “dynodedig” yw dynodedig at y diben o dan sylw drwy neu o dan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir i roi effaith i gytundeb rhyngwladol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 22 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 22 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3