ATODLEN 22RHYDDHADAU AMRYWIOL

(a gyflwynir gan adran 30(1))

Rhyddhadau goleudai

I1I131

Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rhoi effaith i Ran 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) (goleudai) wedi ei ryddhau rhag treth.

I2I142

1

Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd Trinity House at ddiben cyflawni’r gwasanaethau y cyfeirir atynt yn adran 221(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) wedi ei ryddhau rhag treth.

2

Yn y paragraff hwn, mae i “Trinity House” yr ystyr a roddir gan adran 223 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21).

Rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol

I3I153

Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo gyda’r nod o—

a

adeiladu neu ehangu barics neu wersylloedd ar gyfer llu arfog sy’n ymweld,

b

hwyluso hyfforddi llu arfog sy’n ymweld, neu

c

hybu iechyd neu effeithlonrwydd llu arfog sy’n ymweld,

wedi ei ryddhau rhag treth.

I4I164

1

Mae paragraff 3 yn cael effaith mewn perthynas â phencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig fel pe bai—

a

y pencadlys yn lu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig, a

b

aelodau’r llu arfog hwnnw yn cynnwys y personau hynny sy’n gwasanaethu yn y pencadlys, neu sy’n gysylltiedig ag ef, sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “dynodedig” yw dynodedig at y diben o dan sylw drwy neu o dan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir i roi effaith i gytundeb rhyngwladol.

I5I175

Ym mharagraffau 3 a 4, ystyr “llu arfog sy’n ymweld” yw unrhyw gorff, mintai neu ddidoliad o luoedd arfog gwlad sydd am y tro yn bresennol, neu a fydd yn bresennol, yn y Deyrnas Unedig drwy wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

I6I186Rhyddhad ar gyfer eiddo a dderbynnir i dalu treth

Mae trafodiad tir—

a

yr ymrwymir iddo o dan adran 9 o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (p. 17) (gwaredu eiddo a dderbynnir gan y Comisiynwyr Cyllid a Thollau i dalu treth etifeddiant) ac y trosglwyddir eiddo drwyddo i berson a grybwyllir yn is-adran (2) o’r adran honno, neu

b

yr ymrwymir iddo o dan is-adran (4) o’r adran honno,

wedi ei ryddhau rhag treth.

I7I197Rhyddhad cefnffyrdd

1

Mae trafodiad tir y mae Gweinidogion Cymru yn barti iddo, neu y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn barti iddo, wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os yw’n ymwneud â phriffordd neu briffordd arfaethedig sy’n gefnffordd neu a fydd yn gefnffordd, a

b

oni bai am y paragraff hwn, pe byddai treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad fel traul yr eir iddo gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).

2

Yn y paragraff hwn—

  • mae i “cefnffordd” yr ystyr a roddir i “trunk road” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);

  • mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o’r Ddeddf honno;

  • mae i “priffordd arfaethedig” yr ystyr a roddir i “proposed highway” gan adran 329(1) o’r Ddeddf honno.

I8I208Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff a sefydlir at ddibenion cenedlaethol

Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn un neu ragor o’r canlynol—

a

Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig;

b

Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol;

c

Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur.

I9I219Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddol

1

Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan wneir Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56) (gorchmynion sy’n pennu etholaethau seneddol newydd) ac—

a

pan fo’r gwerthwr yn gymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes, a

b

pan fo’r prynwr—

i

yn gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes, neu

ii

yn gorff perthynol i’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes sy’n trosglwyddo’r buddiant neu’r hawl, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, i gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes,

2

Pan fo is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys, mae’r trafodiad tir sy’n rhoi effaith i’r trosglwyddiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw wedi ei ryddhau hefyd.

3

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “corff perthynol” (“related body”), mewn perthynas â chymdeithas etholaeth leol, yw corff (pa un ai’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n gweithredu ar ran y blaid wleidyddol o dan sylw;

  • ystyr “cymdeithas etholaeth leol” (“local constituency association”) yw cymdeithas anghorfforedig (pa un a yw wedi ei disgrifio fel cymdeithas, cangen neu fel arall) sydd â’r prif ddiben o hybu nodau plaid wleidyddol mewn ardal sydd neu a oedd yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol neu ddwy neu ragor o etholaethau seneddol;

  • ystyr “cymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes” (“existing local constituency association”) yw cymdeithas etholaeth leol yr oedd ei hardal yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol flaenorol neu ddwy neu ragor o etholaethau o’r fath yn union cyn y dyddiad perthnasol;

  • ystyr “cymdeithas newydd” (“new association”) yw cymdeithas etholaeth leol y mae ei hardal yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol newydd neu ddwy neu ragor o etholaethau o’r fath yn union ar ôl y dyddiad perthnasol;

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y daw’r Gorchymyn a grybwyllir yn is-baragraff (1) i rym (gweler adran 4(6) o Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56));

  • ystyr “etholaeth seneddol flaenorol” (“former parliamentary constituency”) yw ardal a oedd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth yn union cyn y dyddiad perthnasol ond nad yw mwyach yn etholaeth o’r fath ar ôl y dyddiad hwnnw;

  • ystyr “etholaeth seneddol newydd” (“new parliamentary constituency”) yw ardal sydd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth o’r fath ar ôl y dyddiad perthnasol ond nad oedd yn etholaeth o’r fath yn union cyn y dyddiad hwnnw.

4

At ddibenion y paragraff hwn, mae cymdeithas newydd yn olynydd i gymdeithas sy’n bodoli eisoes os yw unrhyw ran o ardal y gymdeithas sy’n bodoli eisoes wedi ei chynnwys yn ardal y gymdeithas newydd.

I10I2210Rhyddhad cymdeithasau adeiladu

1

Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

a

cyfuno dwy gymdeithas adeiladu neu ragor o dan adran 93 o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 (p. 53) (cyfuno), neu

b

trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau adeiladu o dan adran 94 o’r Ddeddf honno (trosglwyddo ymrwymiadau).

2

Yn y paragraff hwn, mae i “cymdeithas adeiladu” yr ystyr a roddir i “building society” gan adran 119(1) o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 (p. 53).

I11I2311Rhyddhad cymdeithasau cyfeillgar

1

Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

a

cyfuno dwy gymdeithas gofrestredig neu ragor o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974 (p. 46) (“Deddf 1974”) (cyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau),

b

trosglwyddo ymrwymiadau o dan yr adran honno,

c

cyfuno dwy gymdeithas gyfeillgar neu ragor o dan adran 85 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992 (p. 40) (“Deddf 1992”) (cyfuno cymdeithasau cyfeillgar),

d

trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar o dan adran 86 o Ddeddf 1992 (trosglwyddo ymrwymiadau gan gymdeithas gyfeillgar neu iddi), neu

e

trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar yn unol â chyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod priodol o dan adran 90 o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod priodol i roi effaith i drosglwyddo ymrwymiadau).

2

Yn y paragraff hwn—

  • mae i “awdurdod priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan adran 119 o Ddeddf 1992;

  • mae i “cymdeithas gyfeillgar” yr ystyr a roddir i “friendly society” gan adran 116 o Ddeddf 1992;

  • mae i “cofrestredig”, mewn perthynas â chymdeithas, yr ystyr a roddir i “registered” gan adran 111 o Ddeddf 1974.

I12I2412Rhyddhad cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol a rhyddhad undebau credyd

1

Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

a

cymdeithas gofrestredig yn trosglwyddo ei hymrwymiadau i gymdeithas gofrestredig arall yn unol ag adran 110 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14) (“Deddf 2014”) (trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau),

b

trosi cymdeithas gofrestredig yn gwmni yn unol ag adran 112 o Ddeddf 2014 (trosi cymdeithas yn gwmni, cyfuno â chwmni etc.),

c

cyfuno cymdeithas gofrestredig gyda chwmni yn unol â’r adran honno, neu

d

trosglwyddo gan gymdeithas gofrestredig ei holl ymrwymiadau i gwmni yn unol â’r adran honno.

2

Yn is-baragraff (1), ystyr “cymdeithas gofrestredig” yw cymdeithas gofrestredig o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf 2014, ond ym mharagraffau (b) i (d) o’r is-baragraff hwnnw nid yw’n cynnwys cymdeithas a gofrestrwyd fel undeb credyd o dan y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Undebau Credyd 1979 (p. 34) (“Deddf 1979”).

3

I’r graddau y mae’n berthnasol i undeb credyd, mae is-baragraff (1)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at adran 110 o Ddeddf 2014 yn gyfeiriad at yr adran honno fel y mae’n cael effaith yn ddarostyngedig i adran 21 o Ddeddf 1979 (darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â chyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau).