xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 22LL+CRHYDDHADAU AMRYWIOL

Rhyddhadau goleudaiLL+C

1Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rhoi effaith i Ran 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) (goleudai) wedi ei ryddhau rhag treth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 22 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 22 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

2(1)Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd Trinity House at ddiben cyflawni’r gwasanaethau y cyfeirir atynt yn adran 221(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) wedi ei ryddhau rhag treth.

(2)Yn y paragraff hwn, mae i “Trinity House” yr ystyr a roddir gan adran 223 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 22 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 22 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladolLL+C

3Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo gyda’r nod o—

(a)adeiladu neu ehangu barics neu wersylloedd ar gyfer llu arfog sy’n ymweld,

(b)hwyluso hyfforddi llu arfog sy’n ymweld, neu

(c)hybu iechyd neu effeithlonrwydd llu arfog sy’n ymweld,

wedi ei ryddhau rhag treth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 22 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 22 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

4(1)Mae paragraff 3 yn cael effaith mewn perthynas â phencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig fel pe bai—

(a)y pencadlys yn lu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig, a

(b)aelodau’r llu arfog hwnnw yn cynnwys y personau hynny sy’n gwasanaethu yn y pencadlys, neu sy’n gysylltiedig ag ef, sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “dynodedig” yw dynodedig at y diben o dan sylw drwy neu o dan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir i roi effaith i gytundeb rhyngwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 22 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 22 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

5Ym mharagraffau 3 a 4, ystyr “llu arfog sy’n ymweld” yw unrhyw gorff, mintai neu ddidoliad o luoedd arfog gwlad sydd am y tro yn bresennol, neu a fydd yn bresennol, yn y Deyrnas Unedig drwy wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 22 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 22 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad ar gyfer eiddo a dderbynnir i dalu trethLL+C

6Mae trafodiad tir—

(a)yr ymrwymir iddo o dan adran 9 o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (p. 17) (gwaredu eiddo a dderbynnir gan y Comisiynwyr Cyllid a Thollau i dalu treth etifeddiant) ac y trosglwyddir eiddo drwyddo i berson a grybwyllir yn is-adran (2) o’r adran honno, neu

(b)yr ymrwymir iddo o dan is-adran (4) o’r adran honno,

wedi ei ryddhau rhag treth.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 22 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 22 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad cefnffyrddLL+C

7(1)Mae trafodiad tir y mae Gweinidogion Cymru yn barti iddo, neu y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn barti iddo, wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os yw’n ymwneud â phriffordd neu briffordd arfaethedig sy’n gefnffordd neu a fydd yn gefnffordd, a

(b)oni bai am y paragraff hwn, pe byddai treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad fel traul yr eir iddo gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).

(2)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 22 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 22 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff a sefydlir at ddibenion cenedlaetholLL+C

8Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn un neu ragor o’r canlynol—

(a)Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig;

(b)Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol;

(c)Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 22 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 22 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddolLL+C

9(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan wneir Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56) (gorchmynion sy’n pennu etholaethau seneddol newydd) ac—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes, a

(b)pan fo’r prynwr—

(i)yn gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes, neu

(ii)yn gorff perthynol i’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes sy’n trosglwyddo’r buddiant neu’r hawl, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, i gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes,

(2)Pan fo is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys, mae’r trafodiad tir sy’n rhoi effaith i’r trosglwyddiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw wedi ei ryddhau hefyd.

(3)Yn y paragraff hwn—

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae cymdeithas newydd yn olynydd i gymdeithas sy’n bodoli eisoes os yw unrhyw ran o ardal y gymdeithas sy’n bodoli eisoes wedi ei chynnwys yn ardal y gymdeithas newydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 22 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 22 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad cymdeithasau adeiladuLL+C

10(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

(a)cyfuno dwy gymdeithas adeiladu neu ragor o dan adran 93 o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 (p. 53) (cyfuno), neu

(b)trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau adeiladu o dan adran 94 o’r Ddeddf honno (trosglwyddo ymrwymiadau).

(2)Yn y paragraff hwn, mae i “cymdeithas adeiladu” yr ystyr a roddir i “building society” gan adran 119(1) o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 (p. 53).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 22 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20Atod. 22 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad cymdeithasau cyfeillgarLL+C

11(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

(a)cyfuno dwy gymdeithas gofrestredig neu ragor o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974 (p. 46) (“Deddf 1974”) (cyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau),

(b)trosglwyddo ymrwymiadau o dan yr adran honno,

(c)cyfuno dwy gymdeithas gyfeillgar neu ragor o dan adran 85 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992 (p. 40) (“Deddf 1992”) (cyfuno cymdeithasau cyfeillgar),

(d)trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar o dan adran 86 o Ddeddf 1992 (trosglwyddo ymrwymiadau gan gymdeithas gyfeillgar neu iddi), neu

(e)trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar yn unol â chyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod priodol o dan adran 90 o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod priodol i roi effaith i drosglwyddo ymrwymiadau).

(2)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 22 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 22 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol a rhyddhad undebau credydLL+C

12(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

(a)cymdeithas gofrestredig yn trosglwyddo ei hymrwymiadau i gymdeithas gofrestredig arall yn unol ag adran 110 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14) (“Deddf 2014”) (trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau),

(b)trosi cymdeithas gofrestredig yn gwmni yn unol ag adran 112 o Ddeddf 2014 (trosi cymdeithas yn gwmni, cyfuno â chwmni etc.),

(c)cyfuno cymdeithas gofrestredig gyda chwmni yn unol â’r adran honno, neu

(d)trosglwyddo gan gymdeithas gofrestredig ei holl ymrwymiadau i gwmni yn unol â’r adran honno.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “cymdeithas gofrestredig” yw cymdeithas gofrestredig o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf 2014, ond ym mharagraffau (b) i (d) o’r is-baragraff hwnnw nid yw’n cynnwys cymdeithas a gofrestrwyd fel undeb credyd o dan y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Undebau Credyd 1979 (p. 34) (“Deddf 1979”).

(3)I’r graddau y mae’n berthnasol i undeb credyd, mae is-baragraff (1)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at adran 110 o Ddeddf 2014 yn gyfeiriad at yr adran honno fel y mae’n cael effaith yn ddarostyngedig i adran 21 o Ddeddf 1979 (darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â chyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 22 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I24Atod. 22 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3