xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 23LL+CDIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

12LL+CYn adran 43 (hysbysiad ymholiad)—

(a)yn is-adran (1), yn lle’r geiriau o “o 12 mis” i’r diwedd rhodder “ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(1B)Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,

(b)ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,

(c)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a

(d)os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).;

(c)yn is-adran (2), ar y dechrau, mewnosoder “At ddibenion is-adran (1A),”;

(d)yn is-adran (3), yn lle’r geiriau “o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41” rhodder—

(a)o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu

(b)yn rhinwedd is-adran (1B);

(e)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 23 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 23 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3