ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
I1I218
Yn adran 58 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC)—
a
yn is-adran (1)(a)—
i
yn lle “ddau” rhodder “tri”;
ii
yn lle “(2) a (3)” rhodder “(2), (3) a (3A)”;
b
yn lle is-adran (3) rhodder—
3
Yr ail achos yw—
a
pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,
b
pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac
c
ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.
c
ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
3A
Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).
d
yn is-adran (4)—
i
ar ôl “ACC”, mewnosoder “yn yr achos cyntaf na’r ail achos”;
ii
ym mharagraff (a), yn lle “yn y ffurflen dreth” rhodder “mewn ffurflen dreth”.