ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
I1I25
Yn adran 38 (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel)—
a
yn is-adran (1)—
i
ym mharagraff (a), yn lle’r geiriau o “ddychwelyd” i’r diwedd rhodder “ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,”;
ii
yn lle paragraff (b) rhodder—
b
storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.
b
yn is-adran (2)—
i
yn lle “diwrnod”, yn y tri lle y mae’n ymddangos, rhodder “dyddiad”;
ii
ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “pan fydd” i’r diwedd rhodder “fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).”;
c
yn lle is-adran (3) rhodder—
3
Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—
a
y dyddiad ffeilio, a
b
os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.
3A
Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.
d
yn is-adran (4)—
i
yn lle “diwrnodau” rhodder “dyddiadau”;
ii
yn lle “(3)(b)” rhodder “(3A)”;
e
yn lle is-adran (5) rhodder—
5
Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).
f
hepgorer is-adrannau (6) i (8);
g
mae pennawd yr adran yn newid i “Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth”.