Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

This section has no associated Explanatory Notes

60LL+CYn adran 169 (achos yn llys yr ynadon), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm o dreth trafodiadau tir y mae ACC wedi cytuno y gellir gohirio ei dalu, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan Bennod 3 o Ran 6 o DTTT) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).

(5B)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm a gaiff ei drin fel swm gohiriedig yn rhinwedd adran 181G, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan yr adran honno) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 23 para. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 23 para. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3