ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

I1I262

Yn adran 172(2) (rhestr o benderfyniadau apeliadwy), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

f

penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 16 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);

g

penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth).